gan Elizabeth Henderson, prifathrawes ysgol gynradd a darlithwraig
Isod ceir cyfres o awgrymiadau ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ar reoli'r ystafell ddosbarth a sut i ddarparu gwell awyrgylch addysgu i'r disgybl dyslecsig 1. Yn ddieithriad dylai disgyblion dyslecsig gael eu rhoi i eistedd mewn man lle maent yn wynebu blaen y dosbarth, safle y byddwch yn cerdded heibio iddo neu'n gallu ei weld yn rhwydd, fel y gallwch gadw llygad ar eu cynnydd a'u hanawsterau, gan gynnwys bod dan bwysau. Mae dilyn gwaith ar y bwrdd du yn anodd iawn i blant dyslecsig, felly peidiwch a gwneud mwy nag sydd raid, neu sicrhewch ddarpariaeth arall. 2. Pwysleisio'r pethau maent yn eu dysgu'r wythnos hon neu'r rheini a roddwyd sylw iddynt yrwythnos diwethaf drwy ysgrifennu rhywbeth ar gefn eu llaw neu ar garden atgoffa wedi'i gosod yn sownd wrth ei bwrdd (bob tro y byddwch yn mynd heibio iddynt, cofiwch eu hatgoffa am y pwynt hwnnw a'i adolygu). 3. Defnyddio rcordydd tap bach ('Walkman') i recordio negeseuon byr a chyfarwyddiadau y gallant eu chwarae yn ol pan fo angen. 4. Hel at ei gilydd cynifer o oedolion, parod eu cymwynas, ag y gallwch; eu dysgu gyda'i gilydd mewn grwp bach ynglyn a sut i ddysgu eich plant dyslecsig (gan ddefnyddio mygydau dros y llygaid, hambyrddau tywod, ysgrifen redeg, cardiau atgoffa enghreifftiol ayyb). 5. Neilltuo cyfnod byr 'arbennig', mor aml ag sy'n bosibl, i weld y plentyn dyslecsig ar ei ben ei hunan (fel rheol gellir trefnu pum munud cyn ysgol, wedi ysgol, cyn neu ar ol amser cinio; bydd y mamau, fel rheol, yn barod i gydweithio a'r math yma o strategaeth ac, yn aml, fe gant eu calonogi gan y fath drefniant dyddiol os ydynt yn teimlo'n rhydd i ymuno yn awr ac yn y man). 6. Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd (o leiaf bob tymor) gyda'r rhieni. Dylid eu cynnwys gymaint ag sy'n bosibl oherwydd y gall eu cefnogaeth fod yn bwysig iawn. A chofiwch, gall y rhieni fod yn ddyslecsig hefyd. 7. Cadw llyfr cofnod sy'n mynd adref bob nos ac yn cael ei lofnodi gan y rhieni. 8. Darparu siartiau, cardiau atgoffa a chardiau fflach ar gyfer yr eitemau maent yn debygol o'u hanghofio, megis gwaith cartref, dillad chwaraeon a geirfa. Defnyddio lliwiau i helpu cof y plant. 9. Rhoi hwb i'r plentyn drwy osod gwaith ar lefel anhawster addas fel y gall ei orffen o fewn yr amser penodol. 10 . Ni waeth pa mor araf yw cynnydd y plentyn, mae'n rhaid iddo/iddi allu gweld ar ddiwedd pob dydd fod rhywbeth mae'n ei wybod neu'n gallu ei wneud nawr nad oedd yn bosibl yr wythnos diwethaf.
|