|
|
Ysgrifennu Cynlluniau Addysg UnigolIsod ceir cyfres o awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu Cynllun Addysg Unigol a ddylai ganiatau i addysg y plentyn gyd-fynd a'i ddull o ddysgu. 1. Adnabod yr hyn y mae'r plentyn yn cael yn anodd i'w ddysgu. Er enghraifft, ai dysgu ail-iaith, mathemateg, neu eirfa newydd mewn gwyddoniaeth ayyb sy'n anodd iddo iddi? 2. Darganfod y rheswm pam y mae ganddo/ganddi'r cyfryw broblemau. Er enghraifft, ai cof byrhoedlog o'r hyn a glywir, neu brosesu'n ffonolegol yw'r broblem? 3. Ceisio asesu y mha ffordd y mae ef/hi'n dysgu. Er enghraifft, ydy dull gweledol yn gweithio'n well? 4. Ceisio adnabod sut y gallwch newid eich ffordd o addysgu er mwyn ei helpu i ddysgu'n haws. 5. Gofyn i chi eich hunan o hyd pam y dewisoch y dull dan sylw, ac a oed dull amgenach. 6. Adnabod yr hanfodion allweddol wrth ystyried - Pwy fydd yn gyfrifol am ei gyflwyno? Pa mor aml? Ble? 7. Gosod targedau ystyrlon. Sicrhau bod y gweithgareddau'n addas yn ol oedran a gallu 8. Adolygu'n barhaol, ac adnabod y rhesymau pam na chyrhaeddir targedau neu, os y'u cyrhaeddir, a ydy'r plentyn yn cael ei ymestyn ddigon. 9. Gofyn a oes dewisiadau cymwys eraill, neu agweddau eraill, megis rheoli straen neu ymddygiad sydd heb dderbyn sylw eto. 10. Cofio taw dim ond y dull o gynnwys yr ysgol gyfan fydd yn rhoi cyfle i'r disgybl wneud ei orau glas. Mae angen sicrhau bod yr athrawon i gyd yn cael gwybod am yr anawsterau a sut y gallant helpu orau yn y sefyllfa. |
|